Skip to content

Cysylltu â Chomisiwn y Gyfraith

Fel rhan o’n hymrwymiad i amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant, ein polisi yw defnyddio iaith niwtral o ran rhywedd yn ein gwaith a’n gohebiaeth. Mae defnyddio iaith niwtral o ran rhywedd yn hybu cydraddoldeb rhywedd ac yn herio rhagdybiaethau rhagfarnllyd a stereoteipiau o ran rhywedd.

Mae Comisiwn y Gyfraith yn annog gohebwyr i roi’r gorau i ddefnyddio’r cyfarchiad “Annwyl Syr” ac yn hytrach cyfeirio gohebiaeth at y Comisiynydd perthnasol neu at dimau prosiect penodol. Neu, efallai y bydd gohebwyr yn dymuno defnyddio cyfarchiad cynhwysol mwy cyffredinol fel “At bawb y mae hyn yn berthnasol”, “Annwyl gyd-weithiwr”, “Annwyl Gomisiynydd” neu “Annwyl Gomisiwn y Gyfraith”.

Fel corff ymgynghorol, byddwn yn parhau i drin pob gohebiaeth yn gyfartal dim ots sut mae wedi cael ei chyfeirio.

Mae croeso i chi ohebu â ni yn y Gymraeg neu’r Saesneg.

Ymholiadau cyffredinol


e-bost:  [email protected]
ffôn:  020 3334 0200
post:  1st Floor, Tower, 52 Queen Anne’s Gate, London SW1H 9AG
X (Twitter): @Law_Commission

Cyfryngau a’r wefan

Ar gyfer ymholiadau ynghylch y cyfryngau neu’r wefan:

e-bost: [email protected] 
ffôn: 07743 178681 (Michael Duncan – Pennaeth Cyfathrebu)

Timau cyfreithiol

Cyfraith Masnach a’r Gyfraith Gyffredin: [email protected]

Cyfraith Troseddol: [email protected]

Cyfraith Eiddo, Teulu ac Ymddiriedolaeth: [email protected]

Cyfraith Gyhoeddus a’r Gyfraith yng Nghymru: [email protected] neu [email protected]

Mae Comisiwn y Gyfraith yn annog gohebwyr i roi’r gorau i ddefnyddio ‘Annwyl Syr’ wrth gysylltu â’n timau, ac i ddefnyddio cyfarchiad mwy cynhwysol, niwtral o ran rhywedd yn lle, fel:

– At bawb y mae hyn yn berthnasol
– Annwyl Gomisiynydd
– Annwyl Gomisiwn y Gyfraith

Byddwn yn parhau i drin pob gohebiaeth yn gyfartal dim ots sut mae wedi cael ei chyfeirio.

Achosion unigol a chyngor cyfreithiol

Ni all Comisiwn y Gyfraith gynnig:

– cyngor cyfreithiol neu gymorth gydag achosion unigol
– cymorth gydag aseiniadau myfyrwyr 
– cyngor ar sut gallai ein gwaith fod yn berthnasol i chi

Cysylltwch â Chyngor ar Bopeth (0800 144 8848) i gael cyngor cyfreithiol.
Gallwch chi ddod o hyd i gyfreithiwr drwy Gymdeithas y Cyfreithwyr.

Gwiriwch a allai eich achos fod yn gymwys i gael Cymorth Cyfreithiol.

Rhyddid gwybodaeth

Rydym yn darparu llawer o wybodaeth o dan y cynllun cyhoeddi Rhyddid Gwybodaeth.

Os na allwch chi ddod o hyd i gyhoeddiad penodol:

e-bostiwch: [email protected]

I wneud cais Rhyddid Gwybodaeth ffurfiol:

e-bostiwch: [email protected] 
ysgrifennwch at: Freedom of Information, 1st Floor, Tower, 52 Queen Anne’s Gate, London SW1H 9AG

Cwyno

Rydyn ni’n cymryd pob cwyn o ddifrif ac yn anelu at ymateb cyn pen 20 diwrnod gwaith. Os na allwn wneud hynny, byddwn yn rhoi gwybod i chi am hynt eich cwyn. Os byddwn yn cadarnhau eich cwyn, byddwn yn cysylltu â chi i egluro sut rydyn ni’n ceisio unioni pethau.

Cwyno am staff Comisiwn y Gyfraith

I gwyno am aelod o staff neu am ein gweithdrefnau gweinyddol, e-bostiwch neu ysgrifennwch at Bennaeth y Gwasanaethau Corfforaethol:

e-bost:  [email protected]

post: 1st Floor, Tower, 52 Queen Anne’s Gate, London SW1H 9AG (gan gynnwys manylion y gŵyn a’ch enw a’ch cyfeiriad)

Cwyno am ymgynghoriad

I gwyno am sut rydyn ni wedi delio ag ymgynghoriad, e-bostiwch neu ysgrifennwch at y Cydlynydd Ymgynghori:

e-bost:  [email protected]

post: 1st Floor, Tower, 52 Queen Anne’s Gate, London SW1H 9AG (gan gynnwys manylion y gŵyn a’ch enw a’ch cyfeiriad)

Cwynion eraill

I gwyno am sut mae Comisiwn y Gyfraith wedi delio â chwyn, cysylltwch â’r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd.

I gwyno am ymarferydd cyfreithiol, fel cyfreithiwr neu fargyfreithiwr, cysylltwch â’r Ombwdsmon Cyfreithiol.

Mae ffordd wahanol o gwyno am farnwr, ynad, aelod o dribiwnlys neu grwner.

OSZAR »